Bryn-mawr, Blaenau Gwent

Brynmawr
Mathtref farchnad, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,530, 5,245 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd582.3 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.796°N 3.183°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000927 Edit this on Wikidata
Cod OSSO185115 Edit this on Wikidata
Cod postNP23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map
Gweler hefyd Bryn Mawr, Pennsylvania.

Tref farchnad a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Bryn-mawr[1] neu Brynmawr.[2] Saif y dref, weithiau fe'i dyfynnir yn dref uchaf Cymru, rhyw 1,250 i 1,500 traed uwchlaw lefel y môr ar ben Cymoedd De Cymru. Tyfodd hi yn ystod cyrhaeddiad y gweithfeydd glo a diwydiannau haearn yn y 19eg ganrif gynnar.

Mae Caerdydd 35 km i ffwrdd o Frynmawr ac mae Llundain yn 215.1 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 26.4 km i ffwrdd.

Hyd 1957, roedd gorsaf drenau a agorwyd yn gan flwydd yn gynharach gan London and North Western Railway.

Yn wreiddiol, roedd hi'n anheddiad pentrefol bach o'r enw Gwaen Helygen (Cors Helygen mewn Cymraeg Cyfoes, neu "Marsh of the Willow" yn Saesneg) a oedd yn gorwedd yn y sir flaenorol o Sir Frycheiniog. Gydag ehangiad gwaith haearn Nant-y-glo, roedd angen tai ar y gweithwyr, a throdd Frynmawr yn dref ffyniannus. Er gwaethaf y cloddio glo yn dirywio, mae amgueddfa mwyngloddio fawr ar bwys y dref ym Mlaenafon o'r enw Pwll Mawr.

Heddiw, mae gan Frynmawr boblogaeth o fwy na 6,000 o bobl. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 425 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 416 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 366 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, 9.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[3]

Roedd gan y dref yr unig ysgol gynradd Gymraeg o'r enw Ysgol Gymraeg Brynmawr gyda 310 o ddisgyblion tan 2010, pan symudwyd yr ysgol i'r Blaenau i ysgol sydd wedi'i hadeiladu'n bwrpasol, newydd sbon o'r enw Ysgol Gymraeg Bro Helyg.


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
  3. "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy